Llongyfarchiadau

Aled Davies   David Smith   Jim Roberts   Laura Sugar
Beth Munro   James Ball    Paul Karabardak
 Georgia Wilson   Harri Jenkins   Hollie Arnold   Olivia Breen   Tom Matthews

Canlyniadau


Medi 04

Dave Phillips
Archery // Recurve Cymysg Tîm Rownd Chwarter
Turkey 1 v 5 Prydain Fawr Prydain Fawr
8fed
Laura Sugar
Canoe // Caiac Menywod Sengl 200m - Rownd Derfynol KL3
Aur
Aled Davies
Athletics // Taflu'r Shot Dynion Rownd Derfynol F63
Aur

Medi 03

Beth Munro
Taekwondo // Menywod K44 -58kg Rownd Derfynol
Prydain Fawr Beth Munro 21 v 8 Palesha Goverdhan Nepal
Prydain Fawr Beth Munro 34 v 22 Gamze Gurdal
Tsieina Yujie Li 25 v 34 Beth Munro Prydain Fawr
Denmark Lisa Gjessing 32 v 14 Beth Munro Great Britain
Arian
David Smith
Boccia // Tîm BC1/BC2
Prydain Fawr Prydain Fawr 6 v 4 Ariannin Ariannin
Pwyllgor Paralympaidd Rwsia RPC 10 v 3 Prydain Fawr Prydain Fawr
Dave Phillips
Archery // Recurve Dynion Unigol
8th
Paul Karabardak
Table Tennis // Dynion Tîm Dosbarthau 6-7 Rownd Derfynol
China China 2 v 0 Great Britain Great Britain
Arian
Hollie Arnold
Athletics // Taflu'r Gwaywffon i Fenywod - Rownd Derfynol F46
Efydd

Medi 02

David Smith
Boccia // Tîm BC1/BC2
Tsieina Tsieina 11 v 3 Prydain Fawr Prydain Fawr
Gwlad Thai Gwlad Thai 9 v 2 Prydain Fawr Prydain Fawr
Laura Sugar
Canoe // Caiac Menywod Sengl 200m - KL3
50.347 (Gorau Personol Newydd)
Harrison Walsh
Athletics // Taflu'r Disgen Dynion - Rownd Derfynol F64
Tynnwyd yn ôl oherwydd anaf.

Medi 01

David Smith
Boccia // BC1 Unigol Gêm Medal Aur
Aur
Great Britain David Smith4v2Chew Wei Lun Malaysia
Paul Karabardak
Table Tennis // Dynion Tîm Dosbarthau 6-7 Semifinal
Prydain Fawr Prydain Fawr 2 v 1 Sbaen Sbaen

Awst 31

Joshua Stacey
Table Tennis // Dynion Tîm Dosbarthau 9-10 Chwarter
Prydain Fawr Prydain Fawr 2 v 0 Sbaen Sbaen
Prydain Fawr Prydain Fawr 0 v 2 Tsieina Tsieina
David Smith
Boccia // BC1 Unigol Semifinal
Prydain Fawr David Smith 6 v 1 Witsanu Huadpradit Gwlad Thai
Prydain Fawr David Smith 7 v 4 Jose Carlos de Oliveira Brasil
Olivia Breen
Athletics // Naid Hir Menywod - Rownd Derfynol T38
Efydd
Paul Karabardak
Table Tennis // Dynion Tîm Dosbarthau 6-7 Chwarter
Prydain Fawr Prydain Fawr 2 v 0 Awstralia Awstralia

Awst 30

Kyron Duke
Athletics // Taflu'r Shot Dynion - Rownd Derfynol F41
4ydd
Harri Jenkins
Athletics // 100m Dynion - Rownd Derfynol T33
Efydd
David Smith
Boccia // BC1 Unigol - Pwll A
Prydain Fawr David Smith 11 v 1 Takumi Nakamura Siapan
Georgia Wilson
Dressage // Prawf Freestyle Unigol - Gradd II
Efydd

Awst 29

Jack Hodgson
Judo // Dynion +100kg Rownd o 16
AzerbaijanIlham Zakiev 1s2 v 0s1 Jack Hodgson Prydain Fawr
David Smith
Boccia // BC1 Unigol - Pwll A
Prydain Fawr David Smith 4 v 3 Mauricio Ibarbure Ariannin
Prydain Fawr David Smith 5 v 7 Eduardo Sánchez Reyes Mecsico
Ben Pritchard
Rowing // Rownd Derfynol PR1 Dynion Unigol - PR1M1x
5ed
Jim Roberts
Wheelchair Rugby // Gêm Medal Aur
Aur
USA USA 49 v 54 Great Britain Great Britain
Sabrina Fortune
Athletics // Taflu'r Shot Menywod - Rownd Derfynol F20
5ed

Awst 28

John Stubbs
Archery // Dynion Unigol - Compound 1/16
138-138, Enilydd: Marecak
Ben Pritchard
Rowing // PR1 Dynion Unigol - PR1M1x Repechage
GP Newydd: 9:14.61
Cymwys ar gyfer Terfynol A ar Awst 29
Olivia Breen
Athletics // 100m Menywod - T38 Rownd Derfynol
6th
David Smith
Boccia // BC1 Unigol - Pwll A
Prydain Fawr David Smith 7 v 1 Zhang Qi Tsieina
Paul Karabardak
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 6 Semifinal
Efydd
Ian Seidenfeld 3 v 0 Paul Karabardak
James Ball
Cycling // Treial Amser B 1000m Dynion
Arian
Tom Matthews
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 1 Semifinal
Efydd
Kim Hyeon Uk 3 v 0 Tom Matthews
Jim Roberts
Wheelchair Rugby // Semifinal
Siapan Siapan 49 v 55 Prydain Fawr Prydain Fawr

Awst 27

Paul Karabardak
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 6 Chwarter
Prydain Fawr Paul Karabardak 3 v 0 Trevor Hirth Awstralia
Gweriniaeth Korea Park Hong Kyu 2 v 3 Paul Karabardak Prydain Fawr
Tom Matthews
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 1 Chwarter
Prydain Fawr Tom Matthews 3 v 1 Dmitrii Lavrov Pwyllgor Paralympaidd Rwsia
Yr Eidal Andrea Borgato 0 v 3 Tom Matthews Prydain Fawr
Ben Pritchard
Rowing // PR1 Dynion Unigol - PR1M1x
2nd 10:12.24 (+15.77)
Dave Phillips
Archery // Recurve Dynion Unigol
26ain
John Stubbs
Archery // Dynion Unigol - Compound
19eg
Jim Roberts
Wheelchair Rugby //
UDA UDA 50 v 48 Prydain Fawr Prydain Fawr
Joshua Stacey
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 9 Chwarter
Prydain Fawr Joshua Stacey 2 v 3 Iurii Nozdrunov Pwyllgor Paralympaidd Rwsia

Awst 26

Joshua Stacey
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 9
Malaysia Chaoming Chee 0 v 3 Joshua Stacey Prydain Fawr
Yr Eidal Mohamed Kalem 2 v 3 Joshua Stacey Prydain Fawr
Gemma Collis-McCann
Wheelchair Fencing // Épée Menywod Unigol - Categori A
10fed, Pregethwyr: E2 C2
Paul Karabardak
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 6
Prydain Fawr Paul Karabardak 3 v 1 Bobi Simion Romania
Tom Matthews
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 1
Prydain Fawr Tom Matthews 3 v 1 Nam Ki Won Gweriniaeth Korea
Georgia Wilson
Dressage // Prawf Unigol - Gradd II
Efydd
Jim Roberts
Wheelchair Rugby //
Prydain Fawr Prydain Fawr 60 v 37 Seland Newydd Seland Newydd

Awst 25

Joshua Stacey
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 9
Prydain Fawr Joshua Stacey 0 v 3 Lin Ma Awstralia
Gemma Collis-McCann
Wheelchair Fencing // Sabre Menywod Unigol - Categori A
13eg, Pregethwyr: E0 C4
James Ball
Cycling // 4000m Dynion Unigol
Heb orffen
Jim Roberts
Wheelchair Rugby //
Prydain Fawr Prydain Fawr 50 v 47 Canada Canada

Athletwyr Cymraeg sy'n cystadlu yn Tokyo 2020

Darganfyddwch mwy am yr athletwyr o Gymru a fydd yn cynrychioli ParalympicsGB yn Japan yn ystod yr haf:

Profile of Tom Matthews

Tom Matthews

Chwaraeon

Tenis Bwrdd

Dyddiad Geni

19 / 08 / 1992

O

Aberdâr

Yn ei arddegau, roedd Tom eisiau bod yn feiciwr mynydd proffesiynol pan dorrodd cwymp ym mis Mawrth 2009 ei wddw a'i adael yn gaeth i gadair olwyn yn 16 oed.

Wrth adfer yn Ysbyty Rookwood yn Llandaf, cafodd ei annog i roi cynnig ar dennis bwrdd gan Jim Munkley o Chwaraeon Anabledd Cymru a’r cyn Baralympiad Sara Head, a oedd yn gweithio yn yr ysbyty fel gwirfoddolwr.

Cystadlodd Tom am y tro cyntaf mewn tennis bwrdd rhyngwladol ym Mhencampwriaeth Agored Hwngari yn 2013 a chafodd wahoddiad i ymuno â Sgwad Llwybr Prydain Fawr. Ar ddiwedd y flwyddyn honno, roedd yn rhan o garfan Prydain Fawr ym Mhencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau yn San Diego ac fe ragorodd ar yr holl ddisgwyliadau drwy gipio arian yn senglau dosbarth 1 y dynion ac efydd yn nhimau dosbarth 1-2 y dynion.

Yn 2014 roedd ei gyflawniadau’n cynnwys medalau tîm yn Slofenia a Rwmania, ac yn 2015 hawliodd Tom efydd yn y senglau ym Mhencampwriaeth Agored Hwngari. Dilynodd mwy o fedalau, gan gynnwys efydd yn y senglau ac aur yn y tîm (gyda'i gyd-Gymro Rob Davies) ym Mhencampwriaeth Agored Bayreuth yn yr Almaen.

Dewiswyd Tom i gystadlu dros Brydain Fawr ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Nenmarc, ac yn ei Bencampwriaeth fawr gyntaf cipiodd efydd yn senglau dosbarth 1 y dynion ac wedyn fel partner Rob Davies cipiodd aur yng nghystadleuaeth tîm dosbarth 1 y dynion.

Mewn gwres eithafol, aeth Tom ymlaen i ennill dwy fedal arian yn y Copa Costa Rica ym mis Rhagfyr.

Dechreuodd Tom 2016 drwy gipio efydd yn senglau dosbarth 1 y dynion yn yr Eidal, ond torrodd ei goes ym mis Ebrill ac felly ni allodd gystadlu am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Dychwelodd ym Mhencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau ym mis Rhagfyr i gipio aur yn y senglau, gan ddod o 2-0 i lawr yn y rownd derfynol i drechu KiWon Nam (De Korea) o 11-9 yn y pumed.

Yn 2017 symudodd Tom o Sgwad Llwybr Prydain Fawr i'r Sgwad Perfformiad a dod yn bartner i’w gyd-Gymro Paul Davies i ennill efydd ym Mhencampwriaethau Tîm y Byd yn Slofacia. Wedyn roedd yn rhan o un-dau-tri hanesyddol i Brydain Fawr yn senglau dosbarth 1 y dynion, gan golli i’r pencampwr Paralympaidd Rob Davies yn y rownd derfynol ar ôl dangos cymeriad gwych ac ymladd i ddod yn ôl o 2-1 i lawr i guro Federico Falco (yr Eidal) yn y rownd gynderfynol.

Yn 2018 parhaodd y canlyniadau i ddod i mewn ac enillodd yr aur ym Mhencampwriaeth Agored yr Eidal a hawlio efydd yn ei Bencampwriaethau Byd cyntaf, gan golli yn y rownd gynderfynol i Young Dae Joo rhif un y Byd (De Korea).

Mae Tom nawr yn edrych ymlaen at chwarae ar lwyfan mwyaf y byd yn Tokyo!

“Mae’n anodd ei roi mewn geiriau i fod yn onest, dydw i ddim yn gallu ei roi mewn geiriau, mae’n debyg y gallwch weld hynny oddi wrth y wên ar fy wyneb i. Bob tro mae rhywun yn crybwyll Tokyo, rydw i’n gwenu fel giât. Rydw i mor falch; rydw i mor falch fy mod i wedi llwyddo ac yn gwybod bod fy nheulu yn falch ac mae pawb o ’nghwmpas i’n falch, felly mae’n anodd ei roi mewn geiriau. Rydw i ar ben fy nigon i fynd allan yna ac yn methu aros i fynd allan yna a bod yn onest.”

Career Highlights

2020 – Efydd, Pencampwriaeth Agored Gwlad Pwyl (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2019 – Efydd, Pencampwriaeth Agored Yr Iseldiroedd (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2018 – Efydd, Pencampwriaethau’r Byd, Slofenia (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2018 – Arian, Pencampwriaeth Agored Slofenia (Dosbarth 1 Timau’r Dynion)

2018 – Aur, Pencampwriaeth Meistr Agored Lignano, Yr Eidal (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2018 – Arian, Pencampwriaeth Meistr Agored Lignano, Yr Eidal (Dosbarth 1 Timau’r Dynion)

2017 – Arian, Pencampwriaethau Ewropeaidd, Slofenia (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2017 – Aur, Pencampwriaeth Agored Bayreuth, yr Almaen (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2017 – Efydd, Pencampwriaethau Tîm y Byd, Slofacia (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2016 – Aur, Pencampwriaeth Agored UDA (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2016 – Efydd, Pencampwriaeth Meistr Agored Lignano, Yr Eidal (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2015 – Arian, Copa Costa Rica (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2015 – Arian, Copa Costa Rica (Dosbarth 1 Timau’r Dynion)

2015 – Aur, Pencampwriaethau Ewropeaidd, Denmarc (Dosbarth 1 Timau’r Dynion)

2015 – Efydd, Pencampwriaethau Ewropeaidd, Denmarc (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2015 – Aur, Pencampwriaeth Agored Bayreuth, Yr Almaen (Dosbarth 1 Timau’r Dynion)

2015 – Efydd, Pencampwriaeth Agored Bayreuth, Yr Almaen (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2015 – Efydd, Pencampwriaeth Agored Slofacia (Dosbarth 1 Timau’r Dynion)

2015 – Arian, Pencampwriaeth Meistr Agored Lignano, yr Eidal (Dosbarth 1 Timau’r Dynion)

2015 – Arian, Pencampwriaeth Agored Hwngari (Dosbarth 1 Timau’r Dynion)

2015 – Efydd, Pencampwriaeth Agored Hwngari (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2014 – Efydd, Pencampwriaeth Agored Romania (Dosbarth 1 Timau’r Dynion)

2014 – Efydd, Pencampwriaeth Agored Slofenia (Dosbarth 1 Timau’r Dynion)

2013 – Arian, Pencampwriaeth Agored UDA, San Diego (Dosbarth 1 Senglau’r Dynion)

2013 – Efydd, Pencampwriaeth Agored UDA, San Diego (Dosbarth 1 Timau’r Dynion)


Cymryd Rhan


Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan Tom a diddordeb mewn darganfod mwy am sut i gymryd rhan mewn Table Tennis Wales, ewch i: Table Tennis Wales


Mae Swyddogion Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru yn gweithio ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Gallant eich helpu i darganfod gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn eich ardal chi.






#Ysbrydoli


Ydych chi erioed wedi meddwl am yr hyn y gallai eich potensial fod?

Ydych chi dros 9 oed, ac efo nam corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol?

Os gallwch ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau hyn, yna byddai'r tîm Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymfalchïo ar ei lwyddiant mewn digwyddiadau chwaraeon anabledd mawr, gan ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall, ac yr ydym am y llwyddiant i barhau, ond gall hyn ond digwydd drwy ddod o hyd y genhedlaeth nesaf o athletwyr talentog yn barhaus ac yn eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Ni fydd pawb sydd â nam eisiau fod yn athletwr gorau yn y byd, ond dylai pawb o leiaf cael y cyfle i roi cynnig.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru eisiau clywed gan bob unigolyn sy'n chwilio i gael gwybod beth y gallai eu potensial fod o fewn chwaraeon, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud chwaraeon cyn neu hyd yn oed os ydych yn edrych ar drosglwyddo i un newydd.

Rydym am i chi gysylltu â ni drwy lenwi'r ffurflen #ysbrydoli:

Cwblhewch ffurflen #Ysbrydoli