Llongyfarchiadau
Canlyniadau
Medi 04
Medi 03
Medi 02
Medi 01
Awst 31
Awst 30
Awst 29
Awst 28
Cymwys ar gyfer Terfynol A ar Awst 29
Ian Seidenfeld 3 v 0 Paul Karabardak
Kim Hyeon Uk 3 v 0 Tom Matthews
Awst 27
Awst 26
Awst 25
Athletwyr Cymraeg sy'n cystadlu yn Tokyo 2020
Darganfyddwch mwy am yr athletwyr o Gymru a fydd yn cynrychioli ParalympicsGB yn Japan yn ystod yr haf:
Olivia Breen
Chwaraeon
Athletau // T38 Naid HirDyddiad Geni
26 / 07 / 1996O
Guildford (Mam yn Gymraes)Ni wnaeth cael parlys yr ymennydd rwystro Olivia ‘Livvy’ Breen rhag gwneud popeth roedd ei hefaill anturus Dan yn ei wneud pan oedd yn fach, a chymaint yw ei phenderfyniad anhygoel a’i hysbryd heintus fel nad yw’n ei hatal rhag gwneud unrhyw beth nawr.
Ac mae hynny'n cynnwys ennill aur yng Ngemau'r Gymanwlad, Pencampwriaethau'r Byd a Phencampwriaethau Ewrop – wrth iddi baratoi ar gyfer ei thrydydd Gemau Paralympaidd yn Tokyo.
Wedi bod yn angerddol am chwaraeon erioed, cychwynnodd gyrfa trac a chae ryngwladol Livvy pan gafodd ei chategoreiddio fel athletwraig T38 yn 2012.
Yn yr un flwyddyn cafodd ei dewis i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain, lle gorffennodd yn bumed yn y T38 100m, yn wythfed yn y T38 200m a rhedeg amser cymal cyntaf gorau’r tymor i helpu i sicrhau efydd yn y ras gyfnewid 4 x 100m (ochr yn ochr ag aelodau eraill y tîm, Jenny McLoughlin, Bethy Woodward a Katrina Hart).
Cafwyd mwy o lwyddiant rhyngwladol mawr wedyn, gan gynnwys ennill arian (100m T35-38) ac efydd (100m T38) ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd IPC 2014 yn Abertawe, arian (ras gyfnewid 4 x 100m) yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, aur (ras gyfnewid 4 x 100m) ym Mhencampwriaethau'r Byd IPA 2015 yn Doha ac aur (100m T35-38) ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd IPC 2016 yn Grosseto, yr Eidal.
Yng Ngemau Paralympaidd 2016 yn Rio hawliodd Livvy y seithfed safle yn y 100m T38 a 12fed yn y Naid Hir T38 ac wedyn aeth ymlaen i ennill aur yn y Naid Hir T38 ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Llundain y flwyddyn ganlynol.
Er gwaethaf datblygu tendinitis yn ei phen-glin dde, enillodd Livvy aur (Naid Hir T38) ac efydd (100m T38) yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn Awstralia ac efydd (100m T38) ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd WPA yn Berlin.
Fel rhan o’i gwaith paratoi ar gyfer Tokyo enillodd Livvy efydd (Naid Hir T38) ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd WPA 2021 yng Ngwlad Pwyl a chollodd allan ar fedal yn y sbrint 100m T38 o ddim ond dau ganfed o eiliad, gan osod gorau personol o 13.01.
“Fe symudais i’n ôl adref i fod gyda fy nheulu yn ystod y cyfnod clo, heb weld fy hyfforddwr am chwe mis ond roeddwn i jyst yn meddwl, 'Liv, defnyddia’r cyfle yma, paid â gwastraffu dy amser, paid â rhoi'r gorau i hyfforddi, defnyddia hwn i weithio ar dy wendidau’, ac fe wnaeth hynny gymaint o wahaniaeth.”
“Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i’n rhedeg yn yr amseroedd rydw i wedi bod, ac yn gosod goreuon personol, heb fabwysiadu’r agwedd honno.”
“Rydw i hefyd yn teimlo bod naid fawr yn dod hefyd – ac rydw i’n credu ei bod yn aros amdana i yn Tokyo!”
Uchafbwyntiau Gyfra
2021 – Efydd, Pencampwriaethau Ewropeaidd WPA yng Ngwlad Pwyl (Naid Hir T38)
2021 – 4ydd, Pencampwriaethau Ewropeaidd WPA yng Ngwlad Pwyl (100m T38)
2018 – Aur, Gemau'r Gymanwlad yn Awstralia (Naid Hir T38)
2018 – Efydd, Gemau'r Gymanwlad yn Awstralia (100m T38)
2018 – Efydd, Pencampwriaethau Ewropeaidd WPA yn Berlin (100m T38)
2017 – Athletwraig Fenywaidd y Flwyddyn Chwaraeon Anabledd Cymru
2017 – Aur, Pencampwriaethau Byd IPA yn Llundain (Naid Hir T38)
2016 – 7fed, Gemau Paralympaidd Rio (100m T38)
2016 – 12fed, Gemau Paralympaidd Rio (Naid Hir T38)
2016 – Aur, Pencampwriaethau Ewropeaidd IPC yn Grosseto, yr Eidal (100m T35-38)
2015 – Aur, Pencampwriaethau Byd IPA yn Doha (ras gyfnewid 4 x 100m)
2014 – 7fed, Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow (Naid Hir T38)
2014 – Arian, Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow (ras gyfnewid 4 x 100m)
2014 – Arian, Pencampwriaethau Ewropeaidd IPC yn Abertawe (100m T35-38)
2014 – Efydd, Pencampwriaethau Ewropeaidd IPC yn Abertawe (100m T38)
2012 – 5ed, Gemau Paralympaidd Llundain (100m T38)
2012 – 8fed, Gemau Paralympaidd Llundain (200m T38)
2012 – Efydd, Gemau Paralympaidd yn Llundain (ras gyfnewid 4 x 100m)
2012 – Efydd, Pencampwriaethau Ewropeaidd Athletau IPC yn yr Iseldiroedd (100m a 200m T38)
Cymryd Rhan

#Ysbrydoli
Ydych chi erioed wedi meddwl am yr hyn y gallai eich potensial fod?
Ydych chi dros 9 oed, ac efo nam corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol?
Os gallwch ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau hyn, yna byddai'r tîm Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymfalchïo ar ei lwyddiant mewn digwyddiadau chwaraeon anabledd mawr, gan ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall, ac yr ydym am y llwyddiant i barhau, ond gall hyn ond digwydd drwy ddod o hyd y genhedlaeth nesaf o athletwyr talentog yn barhaus ac yn eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Ni fydd pawb sydd â nam eisiau fod yn athletwr gorau yn y byd, ond dylai pawb o leiaf cael y cyfle i roi cynnig.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru eisiau clywed gan bob unigolyn sy'n chwilio i gael gwybod beth y gallai eu potensial fod o fewn chwaraeon, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud chwaraeon cyn neu hyd yn oed os ydych yn edrych ar drosglwyddo i un newydd.
Rydym am i chi gysylltu â ni drwy lenwi'r ffurflen #ysbrydoli:
Cwblhewch ffurflen #Ysbrydoli
