Llongyfarchiadau
Canlyniadau
Medi 04
Medi 03
Medi 02
Medi 01
Awst 31
Awst 30
Awst 29
Awst 28
Cymwys ar gyfer Terfynol A ar Awst 29
Ian Seidenfeld 3 v 0 Paul Karabardak
Kim Hyeon Uk 3 v 0 Tom Matthews
Awst 27
Awst 26
Awst 25
Athletwyr Cymraeg sy'n cystadlu yn Tokyo 2020
Darganfyddwch mwy am yr athletwyr o Gymru a fydd yn cynrychioli ParalympicsGB yn Japan yn ystod yr haf:
Kyron Duke
Chwaraeon
Athletau // T41 Taflu'r ShotDyddiad Geni
12 / 10 / 1992O
CwmbrânDechreuodd Kyron gymryd rhan mewn athletau yn chwech oed ac mae wedi cystadlu ar y lefel uchaf ledled y byd, gan gynnwys y Gemau Paralympaidd yn Llundain a Rio ac ennill arian ym Mhencampwriaethau'r Byd ac Ewrop.
Daeth Kyron yn Bencampwr Codi Pŵer Iau Prydain yn 2009 a chynrychiolodd Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi yng nghategori'r Pwysau Mainc.
Erbyn hynny roedd hefyd wedi dechrau cystadlu mewn digwyddiadau trac a chae, gan gystadlu yn y Taflu Maen F40 a Gwaywffon yn Grand Prix Chwaraeon CP yn Nottingham ac yng Ngornest Agored y Weriniaeth Tsiec. Daeth ei fedal gyntaf pan enillodd aur ym Mhencampwriaeth Agored Berlin 2010.
O'r eiliad honno ymlaen, mae gyrfa Kyron wedi rocedu – yn y Taflu Maen a’r Waywffon. Ymhlith y cyflawniadau cynnar mae ennill efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd 2011 yn Christchurch, efydd dwbl ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd Athletau IPC 2012 yn Stadskanaal, aur yn Rownd Derfynol Grand Prix Athletau IPC 2013 yn Birmingham, efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd 2013 yn Lyon ac arian dwbl yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn Abertawe yn 2014.
Gorffennodd yn bumed hefyd yn y Taflu Maen F41 ac yn wythfed yn y Waywffon F41 wrth gystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012 – a gorffen yn bumed yn y ddau yng Ngemau Paralympaidd 2016 yn Rio.
Yn canolbwyntio nawr ar y Taflu Maen F41, enillodd Kyron arian ym Mhencampwriaethau Para'r Byd yn Llundain, efydd ym Mhencampwriaethau Para Athletau'r Byd yn Dubai ac aur ym Mhencampwriaethau Prydain 2020.
Yn ei gystadleuaeth fawr ddiwethaf cyn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo, enillodd Kyron arian ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd Para Athletau’r Byd 2021 yng Ngwlad Pwyl, gyda thafliad gorau o 13.39m mewn cystadleuaeth yr effeithiwyd arni gan law.
Mae Kyron wedi gwasanaethu fel llysgennad i’r elusen Brydeinig Get Kids Going, sy’n rhoi cyfle i blant ac oedolion ifanc â nam gymryd rhan mewn chwaraeon, ac mae wedi astudio tylino chwaraeon yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
“Rwy’n athletwr gwahanol iawn, yn bendant yn berson gwahanol ynof fi fy hun, yn enwedig ers dod yn Dad y llynedd, yn gynnar y llynedd ac mae hynny wedi fy newid i’n fawr. Rydw i’n edrych nid yn unig ar fywyd ond ar fy ngyrfa gydag agwedd ac ongl hollol wahanol o gymharu â'r hyn oeddwn i 2,3 blynedd yn ôl, 4 blynedd yn ôl. Roeddwn i'n broffesiynol ond mae dod yn Dad wedi fy sadio i, gwneud i mi edrych a meddwl am bethau mewn ffordd hollol wahanol.”
Uchafbwyntiau Gyfra
2021 – Arian, Pencampwriaethau Ewropeaidd WPA, Gwlad Pwyl (F41 Taflu Maen)
2020 – Aur, Pencampwriaethau Prydain (F41 Taflu Maen)
2019 – Efydd, Pencampwriaethau Athletau Para'r Byd, Dubai (F41 Taflu Maen)
2019 – Aur, Grand Prix Athletau Para’r Byd, yr Eidal (F41 Taflu Maen)
2017 – Arian, Pencampwriaethau Para'r Byd, Llundain (F41 Taflu Maen)
2017 – Aur, Pencampwriaethau Cymru (F41 Taflu Maen)
2016 – Aur, Grand Prix IPC (F40 Taflu Maen)
2016 – 5ed, Gemau Paralympaidd, Rio (F41 Taflu Maen)
2016 – 5ed, Gemau Paralympaidd, Rio (F41 Gwaywffon)
2016 – 4ydd, Pencampwriaethau Ewropeaidd, yr Eidal (F41 Gwaywffon)
2016 – 6ed, Pencampwriaethau Ewropeaidd, yr Eidal (F41 Taflu Maen)
2015 – Efydd, Pencampwriaethau Para'r Byd, Doha (F41 Gwaywffon)
2015 – Arian, Grand Prix IPC, yr Eidal (F41 Taflu Maen)
2015 – Arian, Grand Prix IPC, yr Almaen (F41 Taflu Maen)
2014 – Arian, Pencampwriaethau Ewropeaidd, Abertawe (F41 Taflu Maen)
2014 – Arian, Pencampwriaethau Ewropeaidd, Abertawe (F41 Gwaywffon)
2013 – Arian, Pencampwriaethau'r Byd, Ffrainc (F41 Gwaywffon)
2013 – Efydd, Pencampwriaethau'r Byd, Ffrainc (F41 Taflu Maen)
2013 – Aur, Rownd Derfynol Grand Prix Athletau IPC, Birmingham (F41 Gwaywffon)
2012 – 5ed, Gemau Paralympaidd, Llundain (F41 Taflu Maen)
2012 – 8fed, Gemau Paralympaidd, Llundain (F41 Gwaywffon)
2012 – Efydd, Pencampwriaethau Ewropeaidd Athletau IPC, yr Iseldiroedd (F41 Taflu Maen)
2012 – Efydd, Pencampwriaethau Ewropeaidd Athletau IPC, yr Iseldiroedd (F41 Gwaywffon)
2012 – Aur, Pencampwriaethau Cymru (F41 Taflu Maen)
2011 – Efydd, Pencampwriaethau'r Byd, Seland Newydd (F40 Gwaywffon)
2011 – Aur, Pencampwriaethau Iau y Byd, Dubai (F41 Gwaywffon)
2011 – Arian, Pencampwriaethau Iau y Byd, Dubai (F41 Taflu Maen)
2010 – 4ydd, Pencampwriaethau Iau y Byd, Gweriniaeth Tsiec (F41 Gwaywffon)
2010 – 7fed, Pencampwriaethau Iau y Byd, Gweriniaeth Tsiec (F41 Taflu Maen)
2010 – Aur, Gornest Agored Berlin, yr Almaen (F41 Gwaywffon)
2010 – cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad, Delhi (Pwysau Mainc)
2009 – Pencampwr Codi Pwer Iau Prydain
Cymryd Rhan

#Ysbrydoli
Ydych chi erioed wedi meddwl am yr hyn y gallai eich potensial fod?
Ydych chi dros 9 oed, ac efo nam corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol?
Os gallwch ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau hyn, yna byddai'r tîm Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymfalchïo ar ei lwyddiant mewn digwyddiadau chwaraeon anabledd mawr, gan ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall, ac yr ydym am y llwyddiant i barhau, ond gall hyn ond digwydd drwy ddod o hyd y genhedlaeth nesaf o athletwyr talentog yn barhaus ac yn eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Ni fydd pawb sydd â nam eisiau fod yn athletwr gorau yn y byd, ond dylai pawb o leiaf cael y cyfle i roi cynnig.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru eisiau clywed gan bob unigolyn sy'n chwilio i gael gwybod beth y gallai eu potensial fod o fewn chwaraeon, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud chwaraeon cyn neu hyd yn oed os ydych yn edrych ar drosglwyddo i un newydd.
Rydym am i chi gysylltu â ni drwy lenwi'r ffurflen #ysbrydoli:
Cwblhewch ffurflen #Ysbrydoli
