Llongyfarchiadau

Aled Davies   David Smith   Jim Roberts   Laura Sugar
Beth Munro   James Ball    Paul Karabardak
 Georgia Wilson   Harri Jenkins   Hollie Arnold   Olivia Breen   Tom Matthews

Canlyniadau


Medi 04

Dave Phillips
Archery // Recurve Cymysg Tîm Rownd Chwarter
Turkey 1 v 5 Prydain Fawr Prydain Fawr
8fed
Laura Sugar
Canoe // Caiac Menywod Sengl 200m - Rownd Derfynol KL3
Aur
Aled Davies
Athletics // Taflu'r Shot Dynion Rownd Derfynol F63
Aur

Medi 03

Beth Munro
Taekwondo // Menywod K44 -58kg Rownd Derfynol
Prydain Fawr Beth Munro 21 v 8 Palesha Goverdhan Nepal
Prydain Fawr Beth Munro 34 v 22 Gamze Gurdal
Tsieina Yujie Li 25 v 34 Beth Munro Prydain Fawr
Denmark Lisa Gjessing 32 v 14 Beth Munro Great Britain
Arian
David Smith
Boccia // Tîm BC1/BC2
Prydain Fawr Prydain Fawr 6 v 4 Ariannin Ariannin
Pwyllgor Paralympaidd Rwsia RPC 10 v 3 Prydain Fawr Prydain Fawr
Dave Phillips
Archery // Recurve Dynion Unigol
8th
Paul Karabardak
Table Tennis // Dynion Tîm Dosbarthau 6-7 Rownd Derfynol
China China 2 v 0 Great Britain Great Britain
Arian
Hollie Arnold
Athletics // Taflu'r Gwaywffon i Fenywod - Rownd Derfynol F46
Efydd

Medi 02

David Smith
Boccia // Tîm BC1/BC2
Tsieina Tsieina 11 v 3 Prydain Fawr Prydain Fawr
Gwlad Thai Gwlad Thai 9 v 2 Prydain Fawr Prydain Fawr
Laura Sugar
Canoe // Caiac Menywod Sengl 200m - KL3
50.347 (Gorau Personol Newydd)
Harrison Walsh
Athletics // Taflu'r Disgen Dynion - Rownd Derfynol F64
Tynnwyd yn ôl oherwydd anaf.

Medi 01

David Smith
Boccia // BC1 Unigol Gêm Medal Aur
Aur
Great Britain David Smith4v2Chew Wei Lun Malaysia
Paul Karabardak
Table Tennis // Dynion Tîm Dosbarthau 6-7 Semifinal
Prydain Fawr Prydain Fawr 2 v 1 Sbaen Sbaen

Awst 31

Joshua Stacey
Table Tennis // Dynion Tîm Dosbarthau 9-10 Chwarter
Prydain Fawr Prydain Fawr 2 v 0 Sbaen Sbaen
Prydain Fawr Prydain Fawr 0 v 2 Tsieina Tsieina
David Smith
Boccia // BC1 Unigol Semifinal
Prydain Fawr David Smith 6 v 1 Witsanu Huadpradit Gwlad Thai
Prydain Fawr David Smith 7 v 4 Jose Carlos de Oliveira Brasil
Olivia Breen
Athletics // Naid Hir Menywod - Rownd Derfynol T38
Efydd
Paul Karabardak
Table Tennis // Dynion Tîm Dosbarthau 6-7 Chwarter
Prydain Fawr Prydain Fawr 2 v 0 Awstralia Awstralia

Awst 30

Kyron Duke
Athletics // Taflu'r Shot Dynion - Rownd Derfynol F41
4ydd
Harri Jenkins
Athletics // 100m Dynion - Rownd Derfynol T33
Efydd
David Smith
Boccia // BC1 Unigol - Pwll A
Prydain Fawr David Smith 11 v 1 Takumi Nakamura Siapan
Georgia Wilson
Dressage // Prawf Freestyle Unigol - Gradd II
Efydd

Awst 29

Jack Hodgson
Judo // Dynion +100kg Rownd o 16
AzerbaijanIlham Zakiev 1s2 v 0s1 Jack Hodgson Prydain Fawr
David Smith
Boccia // BC1 Unigol - Pwll A
Prydain Fawr David Smith 4 v 3 Mauricio Ibarbure Ariannin
Prydain Fawr David Smith 5 v 7 Eduardo Sánchez Reyes Mecsico
Ben Pritchard
Rowing // Rownd Derfynol PR1 Dynion Unigol - PR1M1x
5ed
Jim Roberts
Wheelchair Rugby // Gêm Medal Aur
Aur
USA USA 49 v 54 Great Britain Great Britain
Sabrina Fortune
Athletics // Taflu'r Shot Menywod - Rownd Derfynol F20
5ed

Awst 28

John Stubbs
Archery // Dynion Unigol - Compound 1/16
138-138, Enilydd: Marecak
Ben Pritchard
Rowing // PR1 Dynion Unigol - PR1M1x Repechage
GP Newydd: 9:14.61
Cymwys ar gyfer Terfynol A ar Awst 29
Olivia Breen
Athletics // 100m Menywod - T38 Rownd Derfynol
6th
David Smith
Boccia // BC1 Unigol - Pwll A
Prydain Fawr David Smith 7 v 1 Zhang Qi Tsieina
Paul Karabardak
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 6 Semifinal
Efydd
Ian Seidenfeld 3 v 0 Paul Karabardak
James Ball
Cycling // Treial Amser B 1000m Dynion
Arian
Tom Matthews
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 1 Semifinal
Efydd
Kim Hyeon Uk 3 v 0 Tom Matthews
Jim Roberts
Wheelchair Rugby // Semifinal
Siapan Siapan 49 v 55 Prydain Fawr Prydain Fawr

Awst 27

Paul Karabardak
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 6 Chwarter
Prydain Fawr Paul Karabardak 3 v 0 Trevor Hirth Awstralia
Gweriniaeth Korea Park Hong Kyu 2 v 3 Paul Karabardak Prydain Fawr
Tom Matthews
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 1 Chwarter
Prydain Fawr Tom Matthews 3 v 1 Dmitrii Lavrov Pwyllgor Paralympaidd Rwsia
Yr Eidal Andrea Borgato 0 v 3 Tom Matthews Prydain Fawr
Ben Pritchard
Rowing // PR1 Dynion Unigol - PR1M1x
2nd 10:12.24 (+15.77)
Dave Phillips
Archery // Recurve Dynion Unigol
26ain
John Stubbs
Archery // Dynion Unigol - Compound
19eg
Jim Roberts
Wheelchair Rugby //
UDA UDA 50 v 48 Prydain Fawr Prydain Fawr
Joshua Stacey
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 9 Chwarter
Prydain Fawr Joshua Stacey 2 v 3 Iurii Nozdrunov Pwyllgor Paralympaidd Rwsia

Awst 26

Joshua Stacey
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 9
Malaysia Chaoming Chee 0 v 3 Joshua Stacey Prydain Fawr
Yr Eidal Mohamed Kalem 2 v 3 Joshua Stacey Prydain Fawr
Gemma Collis-McCann
Wheelchair Fencing // Épée Menywod Unigol - Categori A
10fed, Pregethwyr: E2 C2
Paul Karabardak
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 6
Prydain Fawr Paul Karabardak 3 v 1 Bobi Simion Romania
Tom Matthews
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 1
Prydain Fawr Tom Matthews 3 v 1 Nam Ki Won Gweriniaeth Korea
Georgia Wilson
Dressage // Prawf Unigol - Gradd II
Efydd
Jim Roberts
Wheelchair Rugby //
Prydain Fawr Prydain Fawr 60 v 37 Seland Newydd Seland Newydd

Awst 25

Joshua Stacey
Table Tennis // Dynion Unigol Dosbarth 9
Prydain Fawr Joshua Stacey 0 v 3 Lin Ma Awstralia
Gemma Collis-McCann
Wheelchair Fencing // Sabre Menywod Unigol - Categori A
13eg, Pregethwyr: E0 C4
James Ball
Cycling // 4000m Dynion Unigol
Heb orffen
Jim Roberts
Wheelchair Rugby //
Prydain Fawr Prydain Fawr 50 v 47 Canada Canada

Athletwyr Cymraeg sy'n cystadlu yn Tokyo 2020

Darganfyddwch mwy am yr athletwyr o Gymru a fydd yn cynrychioli ParalympicsGB yn Japan yn ystod yr haf:

Profile of David Smith

David Smith MBE

Chwaraeon

Boccia // BC1

Dyddiad Geni

02 / 03 / 1989

O

Eastleigh (yn byw yn Abertawe)

Bydd unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am boccia fel camp yn gwybod am David Smith, gan fod cysylltiad anorfod rhwng y ddau - ers bron i 20 mlynedd.

Chwaraeodd David, a gafodd ddiagnosis o barlys yr ymennydd yn fabi, Boccia am y tro cyntaf yn chwech oed pan gystadlodd ei ysgol mewn twrnamaint gemau iau cenedlaethol yn Stoke Mandeville.

Chwaraeodd hoci cadair olwyn a phêl droed cadair olwyn hefyd a chystadlu mewn Para-athletau, ac roedd yn ddrymiwr brwd, ond mewn boccia yr oedd yn serennu. Yn 14 oed, David oedd y Pencampwr Boccia Prydeinig ieuengaf erioed, gan guro capten Prydain Fawr ar y pryd yn 2003.

Cystadlodd David yn rhyngwladol am y tro cyntaf cyntaf ym Mhencampwriaethau Ewrop yn 2005, gan ennill arian yn Porto.

Wedyn, yn 18 oed, daeth yn bencampwr dwbl y byd ar ôl ennill ei aur Unigol Rhyngwladol mawr cyntaf ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Vancouver yn 2007, ac wedyn yr aur yn y gystadleuaeth Tîm BC1/2.

Yng Ngemau Paralympaidd 2008 yn Beijing, enillodd David aur yn y gystadleuaeth Tîm BC1/2. Ar ôl dychwelyd i'r DU, aeth i Brifysgol Abertawe i astudio Peirianneg Awyrofod. Mae wedi byw yn Abertawe ers hynny ac mae'n mwynhau'r cyfleusterau hyfforddi gwych sydd ar gael yno.

Arweiniodd aur Unigol ym Mhencampwriaethau Ewrop 2009 ym Mhortiwgal ac efydd Tîm ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Belfast yn 2011 at le i David yng Ngemau Paralympaidd 2012 yn Llundain - lle enillodd arian yn yr Unigol BC1 mewn gêm llawn cyffro yn erbyn y gwrthwynebydd Pattaya Tadtong (Gwlad Thai), a sicrhau efydd yn y gystadleuaeth Tîm BC1/2.

Dilynodd aur Unigol a Thîm ym Mhencampwriaethau Ewrop 2013 ym Mhortiwgal, aur Unigol ac efydd Tîm ym Mhencampwriaethau’r Byd yn 2014 yn Beijing ac aur Tîm ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Guildford wedyn - cyn i David gystadlu yng Ngemau Paralympaidd 2016 yn Rio gyda steil gwallt bythgofiadwy - mohawk glas!

Enillodd fedal aur gyda buddugoliaeth gofiadwy o 5-0 yn erbyn Daniel Perez (Yr Iseldiroedd) i ddod yn gyd-chwaraewr boccia mwyaf llwyddiannus Prydain erioed.

Doedd dim camgymryd ei statws wrth i fedalau aur Unigol eraill ddilyn ym Mhencampwriaethau’r Byd 2018 yn Lerpwl ac ym Mhencampwriaethau Ewrop 2019 yn Porto, gan roi coron driphlyg anhygoel iddo o fuddugoliaethau mewn twrnameintiau mawr - gan ddal teitlau Paralympaidd, Ewropeaidd a Byd ar yr un pryd.

Mae David wedi parhau’n ddiguro ym Mhencampwriaethau Prydain Fawr ers 2004 ac yn 2017 cafodd MBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am ei wasanaethau i boccia.

Mae David yn teithio i Tokyo - a'i bedwerydd Gemau Paralympaidd - fel rhif un y byd.

“Rydw i wedi bod yn rhyw fath o darged am y deuddeng mlynedd diwethaf. Rydw i'n credu eich bod chi’n dod i arfer â’r peth ar ôl ychydig - ond nawr mae gen i'r Gemau Paralympaidd yn Tokyo i ganolbwyntio arnyn nhw.”

“Rydw i’n edrych ymlaen atyn nhw, gan mai fy agwedd i nawr yw y gall unrhyw un ennill a gall unrhyw un golli.”

“Bod dynol ydw i ar ddiwedd y dydd ac weithiau ’fydda’ i ddim yn chwarae'n dda. Efallai y byddaf yn colli, ond dydi pethau ddim am hynny mwyach o reidrwydd. Mae'n ymwneud â chwarae cystal ag y galla’ i a sicrhau bod fy lefel ofynnol i mor uchel â phosib a ’mod i'n wirioneddol anodd fy nghuro.”

Uchafbwyntiau Gyfra

2019 – Aur, Pencampwriaethau Ewrop, Portiwgal (Unigol BC1)

2019 – Efydd, Pencampwriaethau Ewrop, Portiwgal (Tîm BC1/2)

2018 – Aur, Pencampwriaethau’r Byd, Lerpwl (Unigol BC1)

2017 – Aur, Pencampwriaethau Ewrop, Portiwgal (Unigol BC1)

2016 – Aur, Gemau Paralympaidd, Rio (Unigol BC1)

2016 – Efydd, Pencampwriaethau’r Byd, Beijing (Unigol BC1)

2015 – Aur, Pencampwriaethau Ewrop, Guildford (Tîm BC1/2)

2014 – Aur, Pencampwriaethau’r Byd, Beijing (Unigol BC1)

2014 – Efydd, Pencampwriaethau’r Byd, Beijing (Tîm BC1/2)

2013 – Aur, Pencampwriaethau Ewrop, Portiwgal (Unigol BC1)

2013 – Aur, Pencampwriaethau Ewrop, Portiwgal (Tîm BC1/2)

2012 – Arian, Gemau Paralympaidd, Llundain (Unigol BC1)

2012 – Efydd, Gemau Paralympaidd, Llundain (Tîm BC1/2)

2011 – Efydd, Pencampwriaethau’r Byd, Belfast (Tîm BC1/2)

2009 – Aur, Pencampwriaethau Ewrop, Portiwgal (Unigol BC1)

2008 – Aur, Gemau Paralympaidd, Beijing (Tîm BC1/2)

2007 – Aur, Pencampwriaethau’r Byd, Vancouver (Unigol BC1)

2007 – Aur, Pencampwriaethau’r Byd, Vancouver (Tîm BC1/2)

2006 – Efydd, Pencampwriaethau’r Byd, Rio (Tîm BC1/2)

2005 – Arian, Pencampwriaethau Ewrop, Portiwgal (Tîm BC1/2)

2003 – 14 oed, dod y Pencampwr Boccia Prydeinig ieuengaf erioed


Cymryd Rhan


Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan David a diddordeb mewn darganfod mwy am sut i gymryd rhan mewn Boccia Cymru, ewch i: Boccia Cymru


Mae Swyddogion Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru yn gweithio ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Gallant eich helpu i darganfod gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn eich ardal chi.






#Ysbrydoli


Ydych chi erioed wedi meddwl am yr hyn y gallai eich potensial fod?

Ydych chi dros 9 oed, ac efo nam corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol?

Os gallwch ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau hyn, yna byddai'r tîm Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymfalchïo ar ei lwyddiant mewn digwyddiadau chwaraeon anabledd mawr, gan ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall, ac yr ydym am y llwyddiant i barhau, ond gall hyn ond digwydd drwy ddod o hyd y genhedlaeth nesaf o athletwyr talentog yn barhaus ac yn eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Ni fydd pawb sydd â nam eisiau fod yn athletwr gorau yn y byd, ond dylai pawb o leiaf cael y cyfle i roi cynnig.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru eisiau clywed gan bob unigolyn sy'n chwilio i gael gwybod beth y gallai eu potensial fod o fewn chwaraeon, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud chwaraeon cyn neu hyd yn oed os ydych yn edrych ar drosglwyddo i un newydd.

Rydym am i chi gysylltu â ni drwy lenwi'r ffurflen #ysbrydoli:

Cwblhewch ffurflen #Ysbrydoli